Cyngor da iawn yma oddi wrth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae ond yn cymryd ychydig funudau i gofrestru ar gyfer pleidleisio.
Weithiau nid yw pobl yn sylweddoli bod angen iddynt ailgofrestru bob blwyddyn. Ysgrifennodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy at bob cartref ym mis Hydref 2009. Os nad ydych yn sicr os anfonoch chi eich ffurflen yn ôl, neu os ydych chi wedi symud tŷ ers hynny a heb ailgofrestru yn eich cyfeiriad newydd, cymrwch ydychig funudau i wneud hynny rŵan, a gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw un yn eich rhwystro rhag dweud eich dweud ar ddiwrnod yr etholiad.
Cofiwch, os nad ydych chi wedi cofrestru, fedrwch chi ddim pleidleisio!
Printiwch ffurflen oddi ar www.fymhleidlaisi.co.uk gwefan y corff gwarchod etholiadol, y Comisiwn Etholiadol, neu ffoniwch Adain Gwasanaethau Etholiadol y Cyngor ar (01492) 576051.
No comments:
Post a Comment
Feel free to have your say on Phil's campaign.