TORIADAU TRETHI I OGLEDD IWERDDON
+ TORIADAU SWYDDI I GYMRU
= FFORDD Y TORÏAID O LYWODRAETHU
Wrth ichi ddarllen hwn mae’r Torïaid yn closio at Aelodau Seneddol Unoliaethol Gogledd Iwerddon, gan gynnig toriadau sylweddol mewn trethi i fusnesau Gogledd Iwerddon mewn ymgais i ennill mwyafrif yn San Steffan. Mae hynny’n iawn i fusnesau yng Ngogledd Iwerddon – mae Plaid Cymru wedi bod yn brwydro ers amser maith am doriadau treth i fusnesau Cymru – ond beth am Gymru? O dan y Torïaid – dim byd ond rhaglen o doriadau llym ac oes newydd o galedi na welwyd ei thebyg ers dyddiau tywyll llywodraeth Thatcher.
PWY ALL RWYSTRO’R TORÏAID YFORY A SEFYLL DROS GYMRU?
Y CHI – TRWY ETHOL AELODAU SENEDDOL PLAID CYMRU, TRWY ETHOL PHIL EDWARDS
Cyn ichi fwrw’ch pleidlais –
YSTYRIWCH BLAID CYMRU. YSTYRIWCH PHIL EDWARDS
Diolch yn fawr
Things don't just 'happen' in a vacuum
-
It would be an understatement to say that it isn’t often that I agree with
anything said by US Vice-President JD Vance. There is, though, an exception ...
1 week ago

No comments:
Post a Comment
Feel free to have your say on Phil's campaign.