Thursday 1 April 2010

SNP a'r Blaid yn datgelu '4 dros Gymru 4 dros yr Alban’

Yr wythnos yma datgelodd arweinyddion yr SNP a Phlaid Cymru, Alex Salmond ASA a Ieuan Wyn Jones AC, '4 dros Gymru, 4 dros yr Alban’ - cytundeb rhwng yr SNP a Phlaid Cymru i sicrhau gwell bargen i bobl yr Alban a Chymru os digwydd senedd grog.

Gyda Dirprwy Brif Weinidog Cymru Mr Jones a Phrif Weinidog yr Alban Mr Salmond yn y gynhadledd i’r wasg yr oedd arweinyddion grwpiau’r SNP a Phlaid Cymru yn San Steffan, Angus Robertson AS ac Elfyn Llwyd AS.

Dyma fydd elfennau allweddol y rhaglen, sydd â phedair rhan:

1. Cyllido teg i Gymru a’r Alban

2. Amddiffyn gwasanaethau lleol a’r rhai mwyaf bregus

3. Camau i helpu’r economi werdd

4. Cefnogaeth i dwf busnes

Bydd Mr Salmond a Mr Jones yn llofnodi copi mawr o’r cytundeb yn y gynhadledd i’r wasg.

Meddai, Mr Salmond :

"Gyda gwir bosibilrwydd senedd gytbwys yn San Steffan, mae’r sefyllfa yn llawn cyfle i’r Alban a Chymru.

"Mae Llafur a’r Torïaid fel ei gilydd yn bygwth toriadau dwfn a llym fydd yn peryglu’r adfywiad yn yr Alban a Chymru."Mae’r Canghellor Alistair Darling eisoes wedi cyfaddef y bydd y toriadau sydd ar y gweill gan y Llywodraeth Lafur yn "llymach a dyfnach" na rhai Margaret Thatcher.

"Dim ond bloc cryf o ASau’r SNP a Phlaid, trwy ddefnyddio ein pleidleisiau a’n dylanwad i ennill consesiynau hanfodol, all amddiffyn yr Alban a Chymru.

"Fel y saif ar hyn o bryd, gall Llywodraeth y DG gymryd y gyllell i gyllidebau’r Alban a Chymru fel y myn, ac mae’n gwneud hynny. Mae fformiwla Barnett wedi siomi’r Alban a Chymru. Dyna pam fod arnom ni yn yr Alban angen annibyniaeth ariannol a bod ar Gymru angen bargen gyllido decach.
"Mae toriadau arfaethedig pleidiau Llundain yn fygythiad gwirioneddol i ysgolion, ysbytai a gwasanaethau rheng flaen yn yr Alban a Chymru. Rhaid i hyn newid.

"Gan weithio gyda’i gilydd, bydd ASau’r SNP a’r Blaid yn ymladd o blaid cyllido tecach a gwarant o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sydd yn hanfodol i’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau."

Meddai arweinydd y Blaid Mr Jones:

"Yn eu ras am allweddi Rhif 10, mae pleidiau Llundain wedi anghofio beth sydd o wir bwys i bleidleiswyr yn yr Alban a Chymru, ond nid yw’r SNP na Phlaid Cymru wedi anghofio.

“Gyda phosibilrwydd senedd gytbwys yn dod yn fwyfwy tebygol, yr ydym ni’n credu mai etholiad na fyddai’n rhoi mwyafrif clir i’r un blaid fyddai’r canlyniad gorau oll i’n cenhedloedd.

“Byddai cynghrair Geltiadd o ASau Plaid ac SNP mewn sefyllfa i drafod manteision gwirioneddool i bobl Cymru a’r Alban. “Po fwyaf y bleidlais i’r Blaid a’r SNP – gorau fydd y fargen i Gymru a’r Alban. Dyma gyfle cyffrous i wneud gwir wahaniaeth.

“Buasem yn mynnu cylido tecach i Gymru a’r Alban i amddiffyn swyddi, ein hysgolion, ein hysbytai a’r mwyaf bregus mewn cymdeithas.

"Wrth graidd ein safbwynt byddaiangen hefyd gwir ymrwymiad i dyfu ein heconomiau trwy gysylltiadau cludiant cyflym a mwy o genfogaeth i greu miloedd o swyddi o ansawdd uchel yn sectorau’r diwydiannau gwyrdd a’r diwydiannau creadigol."

No comments:

Post a Comment

Feel free to have your say on Phil's campaign.