Thursday 6 May 2010

Phil Edwards. Gwahaniaeth i Aberconwy. GALLWCH WNEUD GWAHANIAETH

Phil Edwards. Gwahaniaeth i Aberconwy.

GALLWCH WNEUD GWAHANIAETH
 
Yn yr etholiad hwn mi fydd sicrhau Senedd mwy cytbwys yn San Steffan yn fuddugoliaeth i’r bobl. 

Mi fydd pleidlais gref dros y Blaid yn fuddugoliaeth i Gymru.

Wrth i bobl baratoi i fwrw eu pleidlais o 7 y.b. ymlaen, mi allwch CHI fod yn rhan o’r ymdrechion i sicrhau fod y tim fwyaf erioed o Blaid Cymru yn cael ei hethol i San Steffan i ymladd dros Gymru. Mae’r polau piniwn yn awgrymu bod yna nifer sylweddol o bobl sy’n dal heb benderfynu i bwy y maent am bleidleisio – ac felly yn fwy nac erioed o’r blaen mi fydd pob pleidlais yn cyfri.

Mi allwn ni ethol ASau Plaid sydd yn rhannu eich gwerthoedd chi – fydd yn blaenoriaethu amddiffyn ein hysgolion, ein hysbytai, ein swyddi a’n pensiynwyr.

Mi allwch chi helpu i wireddu hyn trwy:

Bleidleisio!

Ffonio, tecstio ac e-bostio eich ffrindiau i ddweud wrthynt sut mae pleidlais i’r Blaid yn gwneud gwahaniaeth.

Dweud wrth bobl am y Blaid ar y Weplyfr, Twitter a rhwydweithiau cymdeithasol eraill.

Wirfoddoli i helpu eich ymgyrch leol.



Gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth dros ein cymunedau a thros Gymru.

Ieuan Wyn Jones AC

Arweinydd Plaid Cymru

O.N. Mae’r gorsafoedd pleidleisio yn agor rhwng 7yb a 10yh

O.O.N Cofiwch fynd i http://plaidlive.com! I gael diweddariad ar ddiwrnod yr etholiad! Gallwch weld a chyfrannu eich sylwadau drwy luniau, tweets, fideos a blogiau.

No comments:

Post a Comment

Feel free to have your say on Phil's campaign.